Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
HSC(4)-26-12 papur 2
Cynlluniau ad-drefnu byrddau iechyd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid
1. Cyd-destun
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi gwahodd y Bwrdd Iechyd Prifysgol i fynychu sesiwn ddydd Iau 11 Hydref 2012 i ganiatáu i’r Bwrdd Iechyd gyflwyno gwybodaeth ar y cynlluniau ad-drefnu arfaethedig, ac i roi cyfle i Aelodau’r pwyllgor ofyn cwestiynau am sut fydd y cynigion yn cael eu datblygu.
Bydd y pwyllgor yn ystyried y meysydd canlynol yn arbennig:
· Y prif egwyddorion/meini prawf a fabwysiadwyd i lywio’r cynlluniau ad-drefnu;
· Y graddau y mae’r cynigion yn unol â’r
o Cyfeiriad strategol a osodwyd gan y Gweinidog;
o Barn y boblogaeth leol
· Sut y cynhaliwyd yr ymgynghori a gynhaliwyd hyd yma;
· Sut y casglwyd, y dadansoddwyd ac yr ystyriwyd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hyd yma;
· Sut y gall yr ymatebion i’r ymgynghori a dderbyniwyd hyd yma effeithio ar y cynigon fel ag y’u cyflwynwyd yn wreiddiol;
· Y swyddogaeth a’r berthynas â’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol;
· Gwybodaeth bellach am y camau nesaf ar gyfer y cynigion.
Strwythurwyd y ddogfen friffio hon o amgylch y prif benawdau hyn.
Ochr yn ochr â’r papur briffio hwn, gwelir nifer o ddarnau o dystiolaeth allweddol yn Atodiad 1 – yn cynnwys:
· Ein papur Bwrdd terfynol ym mis Gorffennaf 2012 sy’n crynhoi canlyniadau’r adolygiad a’r cynigion ar gyfer newid;
· Crynodeb o benderfyniadau’r Bwrdd ym mis Gorffennaf 2012;
· Ein dogfen ymgynghorol – “Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid”
· Ein Holiadur Ymgynghoriad;
· Ein taflen ymgynghori.
Caiff y dogfennau ffurfiol hyn eu hategu gan swm mawr o dystiolaeth a phapurau technegol, asesiadau effaith, dogfennau strategol a dogfennau ehangach sy’n gysylltiedig â’n hadolygiadau gwasanaeth. Mae’r dogfennau hyn yn cwmpasu hyd a lled yr heriau sy’n wynebu’r GIG yng Ngogledd Cymru wrth i ni geisio datblygu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n gynaliadwy. Cyhoeddir y dogfennau technegol hyn yn adran gyhoeddus ein gwefan o dan bob adolygiad gwasanaeth, drwy: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/page/42847
2. Cefndir yr Ymgynghoriad
Dechreuodd y Bwrdd Iechyd gyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar 20 Awst 2012, a bydd hwn yn rhedeg tan 28 Hydref 2012. Mae’r ymgynghoriad yn barhad o broses o adolygiadau gwasanaeth ar draws Gogledd Cymru sydd wedi bod yn mynd rhagddo dros y tair blynedd ers i’r Bwrdd Iechyd gael ei ffurfio, ac mae wedi cynnwys ymgysylltiad helaeth iawn â chlinigwyr, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid.
Y cynigion sy’n destun ymgynghoriad yw’r rheiny sy’n gysylltiedig â
· Gwasanaethau Cymunedol ac Ardal – cynigion i weithredu gwell gofal yn y cartref, cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, osgoi derbyniadau i’r ysbyty. Cynigion i wella’r ystod o wasanaethau a gyflwynir ar lefel leol drwy newidiadau i’r rhwydwaith o ysbytai cymunedol a’r gwasanaethau ategol; a;
· Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn;
· Gwasanaethau Gofal Dwys i’r Newydd-Anedig;
· Gwasanaethau fasgwlaidd – yn cynnwys llawdriniaeth rhydwelïol cymhleth;
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn cynnal adolygiadau mewn meysydd eraill hefyd, yn arbennig Llawdriniaeth Gyffredinol heb fod yn Ddewisol, Trawma ac Orthopedeg, a gwasanaethau Menywod a Phlant a Phobl Ifanc. Yn y meysydd hyn, penderfynodd y Bwrdd, gyda chytundeb y Cyngor Iechyd Cymuned, nad yw’n cynigion i newid a gwella’r gwasanaethau hyn mewn ffordd gynaliadwy, yn golygu newid sylweddol sy’n gofyn am ymgynghoriad ffurfiol. Ein bwriad yw cadw’r gwasanaethau hyn ar ein tri safle Ysbyty Cyffredinol Dosbarth aciwt, gyda rhwydweithio cryfach ar draws y rhanbarth. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda’r meysydd hyn i ganfod sut y bydd safonau proffesiynol a chlinigol yn cael eu cyflwyno’n gynaliadwy.
Ym mhob un o’r meysydd gwasanaeth hyn bu lefel yr ymgysylltiad â rhanddeiliaid, cleifion a’u cynrychiolwyr yn uchel iawn drwy gydol ein trafodaethau. Cyflwynwyd ein dull o ymgysylltu’n barhaus i’r pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei gyfarfodydd ar 17 Tachwedd 2010 ac eto ar ddechrau 2011.
Amcan ein hymgynghoriad yw parhau â’r sgwrs a gychwynnwyd gyda’n rhanddeiliaid dros y tair blynedd ddiwethaf, a chaniatáu i gleifion, staff, partneriaid a’r cyhoedd yn ehangach gyfrannu eu barn ar gynigion y Bwrdd ar gyfer newid gwasanaeth.
Mae’r sgwrs a’r ymgysylltu hyn yn broses ystyrlon y mae’r Bwrdd Iechyd, fel sefydliad a arweinir yn glinigol, wedi ymrwymo iddo’n llawn. Fe arweiniodd at y cynigion yr ydym yn ymgynghori arnynt.
3. Y Prif Egwyddorion
Mae’n gweledigaeth glinigol, fel ag y’i gosodwyd yn ein papur bwrdd crynodeb, ac yn ein dogfen ymgynghori yn Atodiad 1 fel a ganlyn:
· Bydd y boblogaeth leol yn mwynhau iechyd, lles a rhyngddibyniaeth o’r radd flaenaf;
· Cynorthwyo pobl i gymryd cyfrifoldeb dros gynnal eu lles eu hunain yn eu cartrefi eu hunain yw’n prif nod fel sefydliad iechyd cyhoeddus ymarferol, gyda gwasanaethau sylfaenol a chymunedol yn cydweithio’n agos â grwpiau’r trydydd sector a chymunedol;
· Dylai gwasanaethau y tu allan i’r ysbyty fod yn hygyrch ac ar gael ar adegau cyfleus, sy’n gyson ac yn ddibynadwy lle bynnag y bo’r cleifion yn byw;
· Rydym eisiau gwneud yn siŵr pan fo angen gofal aciwt, y gall ein gwasanaethau ysbyty gyflenwi’r deilliannau clinigol o’r ansawdd uchaf;
· Pan fo angen gofal brys neu arbenigol, mae darparu hwn yn ddiogel ac yn ddibynadwy i’r boblogaeth gyfan yn adeiladu hyder y gymuned fod gwasanaethau ar gael yn gyson, wedi’u staffio’n ddiogel ac y cynhelir safonau ansawdd, y cyfan er mwyn cyflwyno’r deilliannau gorau i’r cleifion. Gan adeiladu ar ein tri phrif ysbyty aciwt, gall hyn olygu rhwydweithio rhai gwasanaethau i ddarparu ymateb dibynadwy i’r boblogaeth gyfan;
· Bydd ein gwasanaethau’n cael eu cyflwyno gan weithlu sydd â’r hyfforddiant a’r medrau priodol, ac sy’n cael y cyfle i gynnal a gwella’u sgiliau clinigol, gyda chymorth y seilwaith angenrheidiol;
Ein nod drwyddi draw fu sicrhau ein bod yn datblygu gwasanaethau sy’n gymwys i’r tymor canolig a hir - sy’n cynnig gwasanaethau fforddiadwy, uchel eu safon, diogel a chynaliadwy i bobl Gogledd Cymru. Gwasanaethau a grëwyd o amgylch timau a sgiliau clinigol, yn hytrach nag wedi’u clymu wrth adeiladau. Gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cleifion, ac sy’n gallu addasu i’n demograffeg a’n proffiliau technolegol newidiol.
Wrth ystyried ein hymgynghoriad, mae’n bwysig deall y broses helaeth o adolygiadau gwasanaeth a arweiniodd at wneud y cynigion hyn.
Datblygwyd yr adolygiadau gwasanaeth a’r cynigion yr ydym yn ymgynghori yn eu cylch drwy ddefnyddio methodoleg sy’n seiliedig ar broses 3 chylch y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd. Mae hyn yn sicrhau fod sail dystiolaeth gadarn i’r cynigion ar gyfer newid a’u bod yn rhan o gamau lluosog mewn ymgysylltiad manwl â rhanddeiliaid, sy’n arwain at gylchoedd dilynol o fireinio datrysiadau.
Rydym wedi gosod safonau proffesiynol ac arweiniad clinigol wrth wraidd ein gwaith, a diogelwch yw’r egwyddor dros y cyfan.
Cynhaliwyd pob adolygiad gwasanaeth ar wahân er mwyn sicrhau fod yr ad-drefnu cynaliadwy mwyaf addas i’r gwasanaeth hwnnw’n cael ei ddatblygu, cyn i’r ffrydiau gwahanol gael eu dwyn at ei gilydd i ystyried yr ystod o ryng-ddibyniaethau sy’n bodoli rhwng ac o fewn gwasanaethau. Cynlluniwyd y gwasanaethau hefyd i adlewyrchu anghenion gwahanol cymunedau trefol a gwledig yng Ngogledd Cymru. Roedd hyn yn hanfodol er mwyn adeiladu datrysiadau cynaliadwy o’r gwaelod i fyny.
Drwy siarad â grwpiau rhanddeiliad, cleifion a chytundeb y Cyngor Iechyd Cymuned, rydym wedi datblygu cyfres o feini prawf heb fod yn rhai ariannol ac mae’n cynigion i gyd yn cael eu hasesu yn erbyn y rhain:
ü Ansawdd y gofal, yn cynnwys diogelwch clinigol
ü Gallu i gyflenwi
ü Hygyrchedd
ü Cynaliadwyedd
ü Derbynioldeb
ü Tryloywder
Mae gan bob un o’r prif feini prawf hyn nifer o ffactorau asesu sy’n ychwanegu gwahaniaethu pellach wrth ystyried y cynigion.
Cloriannodd pob un o’r adolygiadau gwasanaeth y meini prawf hyn o ran eu haddasrwydd gyda’u rhanddeiliaid lleol eu hunain, ac mewn rhai achosion fe’u haddaswyd er mwyn galluogi arfarnu’r cynigion yn fwy priodol.
Yn ychwanegol at y meini prawf heb fod yn rhai ariannol, egwyddor greiddiol ym mhob un o’r adolygiadau gwasanaeth oedd datblygu atebion sy’n mynd i’r afael â materion cynaliadwyedd yn cynnwys cynaliadwyedd ariannol, clinigol, gweithredol a’r gweithlu.
Wrth osod ein cynigon allan, rydym wedi bod yn ofalus i sicrhau y gallwn eu disgrifio’n llawn yn nhermau effaith ariannol, gofynion cyfalaf, y mathau o rotas staffio a chyfleoedd hyfforddi fyddai angen yn eu sgil, a sut y byddent yn effeithio ar recriwtio a chadw staff clinigol a phroffesiynol.
Egwyddor arweiniol arall drwy’n gwaith oedd darparu gwasanaethau yng Ngogledd Cymru (neu ddod â gwasanaethau’n ôl i Ogledd Cymru) lle’r oedd yn gwneud synnwyr clinigol ac economaidd i wneud hynny. Mae hyn yn helpu i adeiladu gwytnwch a chynaliadwyedd gwasanaethau lleol, yn ogystal â lleihau amser teithio i nifer o’n cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
4. Ffit Strategol
4.1 Y Strategaeth Genedlaethol
Yn ogystal â chyfeiriad strategol Llywodraeth Cymru, rydym wedi talu sylw arbennig i safonau clinigol a phroffesiynol a gyhoeddwyd yn genedlaethol - er enghraifft, y rheiny a osodwyd gan Gymdeithas Brydeinig Meddygaeth Gynenedigol, Safonau Newyddanedig Cymru Gyfan, Birth Rate Plus, Cynllun Gweithredu Dementia Cymru Gyfan, Darparu Gwasanaethau i Gleifion â Chlefyd Fasgwlaidd.
Gosododd y rheiny i gyd y sylfaen i’n gwaith ar fodelau gwasanaeth yn y dyfodol, ac yn eu llywio roedd y sail dystiolaeth a negeseuon o’r llenyddiaeth sy’n gysylltiedig â phob un o’r meysydd gwasanaeth.
Rydym wedi crynhoi aliniad ein cynigion â’r cyfeiriad cenedlaethol hwn yn ein dogfen ymgynghori fel a ganlyn:
“Yng Ngogledd Cymru byddwn yn:
ü Eich cynorthwyo i reoli’ch iechyd a’ch lles eich hun
ü Cynnig gofal a gynlluniwyd yn nes at gartref neu mewn canolfannau rhagoriaeth
ü Cynnig gofal brys o fewn amser diogel ac o fewn pellter rhesymol”
4.2 Y Farn Leol
O ystyried daearyddiaeth Gogledd Cymru, rydym wedi treulio cryn dipyn o amser gyda rhanddeiliaid yn trafod problemau natur wledig a chludiant. Er nad yw pawb yn cytuno, rydym wedi gweld cytundeb bras ymhlith cleifion a gofalwyr eu bod yn barod i deithio pellteroedd hirach i sicrhau mynediad at wasanaethau o ansawdd uchel neu arbenigol. Caiff hyn ei gydbwyso ag awydd i sicrhau ein bod yn cynyddu cwmpas y gwasanaethau a ddarperir o fewn cymunedau lleol.
Mae gallu perthnasau a gofalwyr i ymweld â chleifion yn bwysig i’r rhanddeiliaid, ac rydym yn gweithio’n agos gyda darparwyr Cludiant Cymunedol, yn ogystal â phartneriaid Awdurdod Lleol i wella’r rhwydweithiau cludiant sydd yn eu lle ar hyn o bryd.
Mynegodd rhanddeiliaid bryderon am anawsterau cyfathrebu posibl wrth i wasanaethau newid, ac o ganlyniad rydym yn datblygu pwyntiau cyswllt unigol i gyfeiriadau, a gwybodaeth gyda gwasanaethau cymdeithasol fel rhan o’n cynigion.
Mae cleifion ar ymylon ein hardal - er enghraifft yn Ne Meirionnydd - wedi dweud wrthym fod ganddynt bryderon rhwng ein cynigion i newid gwasanaeth a rhai byrddau iechyd sy’n ffinio. Rydym wedi gweithio gyda BILlau Hywel Dda a Phowys i sicrhau fod cleifion sy’n byw yn ardal BILlPBC ond sy'n cael gwasanaethau gan Hywel Dda (yn benodol Ysbyty Bronglais) yn cael eu hystyried yn llawn yng nghynigion y ddau Fwrdd Iechyd. Cynhaliwyd trafodaethau tebyg gyda darparwyr yn Lloegr yn cynnwys Ymddiriedolaeth GIG y Countess of Chester ac Ymddiriedolaeth GIG Robert Jones ac Agnes Hunt.
Roedd barn cleifion a phreswylwyr yn ystod ein digwyddiadau ymgysylltu ar gyfer Trawma ac Orthopedeg, gwasanaethau Menywod a Phlant a Phobl Ifanc a Llawdriniaeth Gyffredinol heb fod yn Ddewisol yn bwysig wrth ffurfio’n cynigion i rwydweithiau’r gwasanaethau allweddol hyn ar draws ein tri Ysbyty Cyffredinol Dosbarth.
5. Y Broses Ymgynghori
5.1 Ymgysylltiad Parhaus
Bu ystod eang o unigolion a chynrychiolwyr grwpiau cymunedol, yn ogystal â sefydliadau partner yn y trydydd sector a’r gwasanaethau statudol yn cymryd rhan yn y gwaith ymgysylltu i ddatblygu Strategaeth Gwasanaethau Clinigol Gogledd Cymru. Gwerthuswyd y broses hon yn annibynnol a gwelwyd ei bod yn cydymffurfio â’r canllawiau interim ar ymgynghori ac ymgysylltu.
Ers hynny rydym wedi parhau i gynnwys rhanddeiliaid wrth ddatblygu’n cynigion am newid gwasanaeth ymhellach. Ym mhob adolygiad gwasanaeth, cafwyd nifer o sesiynau trafod lle y gwahoddwyd rhanddeiliaid i gyfrannu eu barn ar y maes o dan sylw. I atgyfnerthu hyn cafwyd diweddariadau rheolaidd a ddosbarthwyd yn eang, gan gynnwys drwy’r cyfryngau. Rydym wedi sefydlu 14 o grwpiau rhanddeiliaid ardal leol a fydd wedi siapio cynllunio a datblygu eu gwasanaethau iechyd, yn gweithio gyda’r Timau Arweinyddiaeth Ardal.
Buom yn briffio rhanddeiliaid pwysig bob mis drwy ddiweddariad “Prif Faterion” a chynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau briffio i ACau, ASau, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector, cynrychiolwyr Gofal Sylfaenol a’r Cyngor Iechyd Cymuned.
Rydym wedi bod yn siarad â’n prif grwpiau cynghori – y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid, y Fforwm Gweithwyr Iechyd Proffesiynol a’r Fforwm Partneriaeth Lleol – yn rheolaidd.
Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau rhanddeiliaid ar feysydd gwasanaeth penodol. Cynhaliom sesiynau galw heibio hefyd a dargedwyd at grwpiau cymunedol a chleifion arbennig lle’r oeddem angen mwy o adborth gan y grwpiau hynny sy’n debygol o gael eu heffeithio. Mae’n gwaith ar asesu effaith ein cynigion ar gydraddoldeb wedi tynnu sylw at rai o’r grwpiau nodweddion gwarchodedig fel rhai sydd angen ymgysylltiad pellach ac rydym yn gweithio ar hyn fel rhan o’r ymarfer ymgynghori ffurfiol.
Rydym wedi defnyddio fforymau sy’n bodoli’n barod megis rhwydweithiau’r sector gwirfoddol a drefnwyd gan y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a fforymau cynghorau tref a chymuned, i gyflwyno’r materion a thrafod pryderon a barn y fforymau hyn.
Drwyddi draw, mae ystod eang iawn o gynrychiolwyr, grwpiau cleifion a chymuned wedi gallu clywed am y materion y buom yn eu hystyried a rhoi eu barn i ni.
Ceir trosolwg o’r gweithgareddau/dyddiau ymgysylltu manwl a wnaed gan bob adolygiad gwasanaeth yn y papurau terfynol a gyflwynwyd i’r Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf 2012: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/page/62235. Mae crynodeb o hwn yn Atodiad 2.
5.2 Ymgynghoriad Ffurfiol
Mae’r Canllawiau’n mynnu bod Byrddau Iechyd yn ymgymryd â phroses dau gam mewn perthynas ag ymgynghori, pan ei bod yn edrych yn debyg y dylai ymgynghoriad ffurfiol ddigwydd. Y cam cyntaf yw cynnal trafodaethau eang gyda rhanddeiliaid allweddol i edrych ar y materion sy’n codi, mireinio’r opsiynau a chytuno ar y math o gwestiynau.
Rydym wedi cynnwys y rhanddeiliaid allweddol a nodwyd yn y rhan hon o’r canllawiau yn ein prosesau ymgysylltu, ac wedi cynnwys dull ffurfiol penodol o dan delerau’r rhan hon. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyniad i’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliad; y Fforwm Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd; y Fforwm Partneriaeth Lleol a’r Cyngor Iechyd Cymuned. Gwnaed cyflwyniad i gyfarfod Byrddau Gwasanaeth Lleol Gogledd Cymru gyfan ar yr opsiynau posibl a’r dull o ymgynghori.
Cyflwynwyd dogfen gwmpasu i’r ymgynghoriad i’r Cyngor Iechyd Cymuned a daethpwyd i gytundeb ar y materion i’w trafod ynddi. Cafodd y ddogfen hon hefyd ei harwyddo gan y Sefydliad Ymgynghori, ynghyd â’r cynllun prosiect.
Lansiwyd ein hymgynghoriad gyda briffio i’r cyfryngau (print a darlledu) a oedd yn cyd-fynd â dosbarthu taflen wybodaeth i bob cartref yng Ngogledd Cymru.
Mae’r ymgynghoriad yn mynd o 20 Awst i 28 Hydref 2012, a gall unrhyw un sydd â diddordeb yn ein cynigion ddweud eu dweud drwy:
· Fynychu unrhyw un o’n 48 cyfarfod cyhoeddus ffurfiol a gynhelir mewn 16 o leoliadau gwahanol ar draws Gogledd Cymru – ceir y dyddiadau/lleoliadau ar dudalen 39 y ddogfen ymgynghori.
· Ysgrifennu atom drwy’n cyfeiriad Rhadbost neu’r cyfeiriad e-bost pwrpasol.
· Ffonio’n llinell gymorth ffôn am ddim.
· Llenwi’r holiadur ffurfiol - naill ai mewn print neu ar-lein drwy’n gwefan ymgynghori: www.bcuhbjointhedebate.wales.nhs.uk
· Cysylltu â’r Cyngor Iechyd Cymuned – sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda ni wrth lunio’n proses ymgynghori
Comisiynwyd yr ORS i gynnal nifer o grwpiau trafod bach ac arolygon cartref i gipio adborth a dargedwyd i gyd-fynd â’r hyn a gafwyd yn uniongyrchol drwy weithgareddau’r Bwrdd Iechyd.
5.3 Dadansoddi’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad
Derbynnir ymatebion yn bennaf drwy’r holiadur ffurfiol. Mae’r rhai sy’n cofnodi hefyd yn dal yr ymatebion a wnaed mewn cyfarfodydd cyhoeddus, llythyrau ac e-byst, i fwydo i mewn i ddadansoddiad yr ORS.
Bydd yr ORS yn cynhyrchu crynodeb ar ei ben ei hun o’r ymatebion, yn ogystal ag adroddiad llawn ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad.
5.4Effaith yr Ymatebion ar y Cynlluniau Hyd Yma
Rydym wedi amlinellu uchod sut y bu adborth yn ystod ein cyfnodau o ymgysylltu parhaus yn allweddol wrth helpu i ffurfio’n cynigion – yn enwedig o ran cludiant, datblygu canolfannau rhagoriaeth a gynhelir gan rwydwaith o wasanaethau aciwt ar draws y tri safle Ysbyty Cyffredinol Dosbarth aciwt, a datblygu canolfannau ardal.
Mae’n rhy gynnar yn ein hymgynghoriad ffurfiol i wneud asesiad o’r ymatebion a dderbyniwyd hyd yma ar y cynigion sydd o dan ystyriaeth gennym. Fodd bynnag, pan oedd ymatebion yn gysylltiedig â chyflwyno deunydd neu drefnu digwyddiadau, arweiniodd y rhain at wneud newidiadau priodol. Lle bu’r galw’n uchel am gyfarfodydd cyhoeddus rydym wedi addasu’n trefniadau er mwyn gallu rhoi lle i fwy o bobl fynychu.
Bydd unrhyw gynigion gwahanol a awgrymir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael eu hystyried, a byddant yn destun yr un meini prawf asesu ariannol a heb fod yn ariannol a osodwyd uchod. Byddant hefyd yn cael eu hystyried o safbwynt y Nod Driphlyg a’r amcanion o gyflwyno gwasanaethau diogel, fforddiadwy, sydd o ansawdd uchel ac yn gynaliadwy.
6. Y Fforwm Clinigol Cenedlaethol
Yn ystod ymweliad mis Chwefror, cyflwynodd y Bwrdd Iechyd yr achos clinigol dros newid o bob ffrwd waith adolygiad, gan ganolbwyntio ar faterion diogelwch, safonau a chynaliadwyedd. Rhoddwyd sylw arbennig i gynaliadwyedd rotas staffio meddygol a hyfforddiant meddygol, yn ogystal â chyflenwi’r safonau clinigol cenedlaethol a osodwyd yng nghyd-destun lleol daearyddiaeth a demograffeg Gogledd Cymru.
Ym mis Mehefin 2012, cyflwynodd y Bwrdd Iechyd y cynigion drafft i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr achos clinigol dros newid. Dangosir ymateb manwl y Fforwm yn Atodiad 3. Yn fras, roedd y fforwm yn gefnogol i’r cynigion a gyflwynwyd fel rhai oedd yn glinigol ddiogel ac yn ymatebion priodol i’r achos dros newid. Codwyd cwestiynau ganddynt a oedd yn ymwneud â’r rhyng-ddibyniaeth glinigol rhwng nifer o wasanaethau, a bwydwyd y rhain i mewn i’n cynigion terfynol.
7. Y Camau Nesaf
Mae’r cyfnod ymgynghori’n cau ar 28 Hydref 2012. Bydd cyfnod yn dilyn wedyn i alluogi’r ORS i gwblhau eu dadansoddiad, ac i adolygiadau gwasanaeth a thimau clinigol ystyried yr adroddiad ymgynghori ac unrhyw gynigion gwahanol a wnaed. Byddwn hefyd yn ystyried barn y Cyngor Iechyd Cymuned ac unrhyw farnau a ddaeth i’w sylw nhw.
Bydd y dogfennau technegol ategol yn cael eu diweddaru a’u datblygu i adlewyrchu deilliannau’r ymgynghoriad.
Yna bydd y Bwrdd Iechyd yn penderfynu, yng ngoleuni’r ymgynghoriad a gwybodaeth arall a gasglwyd, p’un ai i symud ymlaen ar y cynigion fel ag y’u gosodwyd neu i’w newid yng ngoleuni adborth yr ymgynghoriad. Rhagwelwn y bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud mewn cyfarfod cyhoeddus o’r Bwrdd Iechyd ym mis Rhagfyr 2012.
Bydd gweithredu’n dilyn ddechrau 2013. Gobeithiwn fod wedi cwblhau’r newidiadau erbyn 2016.
Atodiad 1
Llyfrgell o’r prif ddogfennau sy’n ategu’r papur briffio hwn:
|
|
|
|
|
|
|
|
Ein taflen Ymgynghoriad – Linc ddim ar gael |
|
|
|
|
|
|
|
|
Atodiad 2
Crynodeb o’r gweithgareddau/dyddiadau ymgysylltu manwl a gynhaliwyd gan bob adolygiad gwasanaeth
A: Darn o Bapur Bwrdd terfynol Gwasanaethau Ardal Leol a Chymunedol, Gorffennaf 2012:
“Particular areas of work which have supported this Review include:
· Health, Social Care and Well-Being Strategies for each county area
· The creation of 14 localities across North Wales each with a multi-agency Locality Leadership Team and Locality Stakeholder Group (see Appendix 1)
· The Llangollen Hospital project
· The Llandudno Hospital project
· North Denbighshire Project
· Meetings with GPs and hospital doctors in the evenings and at Grand Round meetings
· Presentations to Local Authority Scrutiny Committees
· Specific forums eg. Flintshire County Forum, Ffestiniog Development Group,
· Meetings with the Local Medical Committee
In addition the Chronic Conditions pathfinder work has been completed in Gwynedd and South Wrexham, as a Demonstrator site for Wales, which has also influenced our review, with evidence of engagement to support a number of priority areas.
A major conference was held in May 2011 bringing together about 120 people from our Clinical Programme Groups, Local Authorities, Voluntary Sector and Primary care contractors to identify priority themes for the development of locality working. This identified widespread support for the development of integrated community based services within localities. Participants reflected upon the learning and successes of existing service models which included the improved integration of health and social care services, delivery of intermediate care and CCM Demonstrator projects.
On the 9th November 2011 an engagement event was held with around 100 stakeholders to consider further how we prioritise the work required to deliver the model of care in our local communities. In particular the participants considered 3 key priority areas, namely prevention, enhanced care at home and moving services from acute hospitals to local communities. Comments and themes raised by participants have been recorded and where used in the development of further locality engagement meetings.
From January to June 2012 further significant engagement has been undertaken at a locality level. Locality Stakeholder Groups have been established with a wide spectrum of local representation including, locality based community staff, County, Town and Community Councillors, Hospital League of Friends representatives, local voluntary sector groups, social services, GP practices and the Community Health Council.
A series of three meetings were held with each Locality Stakeholder Group to:
1) Present and agree the Case for Change and the 3 priority areas,
2) Present and agree a Generic Locality Model of Care
3) Present and discuss various scenarios at a local level in implementing the Locality Model of Care
Around 240 stakeholders attended each set of meetings held across North Wales, with an average of 40 people for each local meeting. The North Denbighshire stakeholders group has been in place for a longer period and have been considering the service needs of that Locality with a particular focus on the Glan Clwyd Hospital Project.”
B: Darn o Bapur Bwrdd terfynol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn, Gorffennaf 2012:
“Internal and external engagement commenced in July 2011 and to date the following events have been held for all stakeholders including staff:-
Date |
Venue |
|
20th September 2011 |
Porthmadog |
|
22nd September 2011 |
Llangefni |
|
6th October 2011 |
Wrexham |
|
13th October 2011 |
Deeside |
|
19th October 2011 |
Rhyl |
|
24th October 2011 |
Llandudno Junction |
|
3rd April 2012 |
Pwllheli |
|
5th April 2012 |
Dolgellau |
|
17Th April 2012 |
Mold |
|
24th April 2012 |
Rhyl |
|
26th April 2012 |
North Powys |
|
10th April 2012 |
Llangefni |
|
18th April 2012 |
Wrexham |
|
25th April 2012 |
Colwyn Bay |
|
16th May 2012 |
West, North and Central Wrexham |
|
18th May 2012 |
Arfon and Anglesey |
|
22nd May 2012 |
Meirionnydd and Dwfor |
|
18th May 2012 |
Conwy East and West |
|
25th May 2012 |
Flintshire |
|
25th May 2012 |
Central and south Denbighshire |
|
22nd May 2012 |
North Denbighshire |
|
Throughout the review updates have been provided to the
following:-
·
Healthcare
Professional Forum, Stakeholder Reference Group and Local
Partnership Forum, Updates at Older Peoples Forums, Locality
Leadership Meetings, GP Practice Managers
Meetings”
C: Darn o Bapur Bwrdd terfynol Gwasanaethau Fasgwlaidd, Gorffennaf 2012:
“The review commenced after the other acute service reviews, and internal and external engagement commenced in January 2012. To date the following actions have been undertaken:-
Internal and external briefings following key stages agreed in the project board (eg commencement of review, following the first clinical workshop, when the case for change was adopted). |
Multiple dates |
A clinical workshop for all clinicians involved in delivering the service. |
20th March 2012. |
Update to Health Professionals Forum. |
11th June 2012 |
Update to Stakeholder Reference Group. |
11th June 2012 |
Updates to Inter-CPG Group (multiple sessions); |
May-July 2012 |
A dedicated CHC briefing session for the project board representative |
16th April 2012. |
Presentation of the case for change and service models being developed to the National Clinical Forum. |
27th June 2012 |
Inclusion in briefings and other stakeholder events as appropriate – eg CHC briefing sessions, Town & Community Council scrutiny meetings, and the series of non-elective general surgery stakeholder events; |
Multiple dates |
D: Darn o Bapurau Bwrdd terfynol Gwasanaethau Pediatreg ac Iechyd plant a Gwasanaethau Mamolaeth, Gynaecoleg a Newydd-Anedig, Gorffennaf 2012:
“Internal and external engagement commenced in July 2010 and was undertaken jointly with the Maternity, Gynaecology and Neonatal work stream. To date the following events and actions have been undertaken:-
Summary of engagement events
9th September 2010: Stakeholder Event (Llandudno) |
September 2010: Interviews with service users – Paediatrics & Neonatal |
27th September – 3rd October: Interview with service users – Women’s |
5th October 2010: Stakeholder Event (Llandudno) |
2nd November 2010: Discussion Forum for GPs |
1st March 2011: GP Focus Group Llandudno |
2nd March 2011: GP Focus Group Holywell |
18th & 19thApril 2011: Paediatric Consultant Focus Group |
26th & 28TH April 2011: Women’s Consultant Focus Group |
8th May 2011: Drop in session YG |
14th May 2011: Drop in session WMH |
11th May 2011: Drop in session Central (Faenol Fawr) |
19th May 2011: Young People’s consultation Event |
11th July 2011: BCU Drop in session (West) |
19th July 2011: county stakeholder event, Porthmadog |
21st July 2011: county stakeholder event, Wrexham |
2nd August 2011: BCU Drop in session (East) |
4th August 2011: county stakeholder event, Llangefni |
9th August 2011: BCU Drop in session (Central) |
11th August 2011: County stakeholder event, Mold |
17th August 2011: County stakeholder event, Ruthin |
18th August 2011: Local Authority and Third Sector stakeholder event, Faenol Fawr, Bodelwyddan |
23rd August 2011: County stakeholder event, Colwyn Bay |
2nd September 2011: Summer Briefing for AMs, CHC, on all the reviews |
7th September 2011: Women’s CPG Focus Group |
7th November 2011: Update on Reviews |
8th May 2012: BCU Drop in session (West) |
14th May 2012: BCU Drop in session (East) |
11th May 2012: BCU Drop in session (Central) |
On line questionnaire |
The above has been supported by:-
· Bi-monthly CPG drop in sessions and team meetings
· Updates to Children and Young People’s Partnerships
· Local Midwifery Liaison committee
· Stakeholder Reference Group
· Health Professional Forum
· Local Partnership forum
· BCU Briefings following every project board meeting
· Monthly update to partners via the Key Issues document “
E: Darn o Bapur Bwrdd terfynol gwasanaeth Llawdriniaeth Gyffredinol heb fod yn Ddewisol, Gorffennaf 2012:
“There has been significant engagement with stakeholders and particularly clinicians.
A summary of the engagement events is as follows:
Date |
Event |
1 September 2010 |
Briefing for clinicians (St Asaph) |
28 September 2010 |
Briefing for consultant surgeons and anaesthetists – open session (Bodelwyddan) |
12 October 2010 |
Stakeholder briefing (Wrexham) |
13 October 2010 |
Stakeholder briefing (Bangor) |
14 October 2010 |
Stakeholder briefing (Bodelwyddan) |
15 October 2010 |
Stakeholder workshop (St Asaph) |
2 November 2010 |
Primary Care Discussion Forum (joint, Bodelwyddan) |
3 November 2010 |
Discussion forum for surgeons, anaesthetists and radiologists (Bodelwyddan) |
5 November 2010 |
Second stakeholder workshop (St Asaph) |
1 April 2011 |
Clinical engagement, general surgery consultants |
5 July 2011 |
Clinical engagement, general surgery consultants |
18 August 2011 |
Clinical engagement, general surgery consultants |
6 September 2011 |
Clinical engagement, general surgery consultants |
8 November 2011 |
Stakeholder workshop (Colwyn Bay) |
13 January 2012 |
Clinical engagement, general surgery consultants |
14 May 2012 |
Stakeholder drop in session, Colwyn Bay |
21 May 2012 |
Stakeholder drop in session, Rhyl |
25 May 2012 |
Stakeholder drop in session, Wrexham |
28 May 2012 |
Stakeholder drop in session, Connah’s Quay |
29 May 2012 |
Stakeholder drop in session, Caernarfon |
30 May 2012 |
Stakeholder drop in session, Dolgellau |
31 May 2012 |
Stakeholder drop in session, Anglesey |
14 June 2012 |
Combined service reviews primary & secondary care session, Wrexham |
19 June 2012 |
Combined service reviews primary & secondary care session, Bangor |
20 June 2012 |
Combined service reviews primary & secondary care session, Bodelwyddan |
Information briefings have been released to the media, to project board members and staff and their representatives and placed on the website after significant project board meetings and at key points during the project.”
F: Darn o Bapur Bwrdd terfynol gwasanaethau Tramwa ac Orthopedeg, Gorffennaf 2012:
“The work to develop a 5 year clinical services strategy for orthopaedics commenced with a series of internal and external stakeholder briefings in summer 2010.
To date the following engagements events have taken place:
A series of internal and external briefings following key stages agreed in the project board (eg commencement of review, following stakeholder/clinician workshops, when the case for change was adopted by BCU Board). |
Multiple dates |
4 internal/external stakeholder events with attendance from approximately 300 stakeholders and partners in total – coinciding with the 3 cycles of the review and formal feedback periods on all review documentation |
30th July 2010 3rd September 2010 22nd October 2010 10th November 2011 |
4 secondary care clinician workshops – 23/09/10, 20/10/10, 05/05/11, 20/10/11); |
23rd September 2010 20th October 2010 5th May 2011 20th October 2011 |
A series of update briefings with other service reviews at key points during the work; |
Multiple dates. |
Publication on the internet/intranet, and circulation to all stakeholders of all draft project documentation with a defined formal feedback period before documents were adopted. |
Ongoing. |
Regular updates to Health Professionals Forum, Stakeholder Reference Group, Local Partnership Forum, and Inter-CPG Group; |
Multiple dates, most recently 11th June 2012 |
Inclusion in briefings and other stakeholder events as appropriate – eg CHC briefing sessions, General Surgery stakeholder events; |
Multiple dates throughout the review. |
Presentation of the case for change and service models being developed to the National Clinical Forum in February and June 2012; |
February 2012 27th June 2012 |
Feedback from stakeholders informally or via feedback sheets from events has been very positive about the process and levels of engagement – particularly with patients, patient representatives and carers.”
Atodiad 3
Adborth gan y Fforwm Clinigol Cenedlaethol